Heddiw, mae Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Dai a Chynllunio, wedi tynnu sylw at sut mae polisïau tai Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chynllunio yn tynnu sylw oddi wrth y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Nghymru.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yng nghyfarfod y Senedd heddiw, dyfynnodd Mr Isherwood Ymgynghoriaeth Cynllunio a Datblygu Lichfields, sydd wedi cwestiynu “i ba raddau y byddai Cyfarwyddiadau Erthygl 4, fel yr un a gynigiwyd yng Ngwynedd, yn effeithiol o ran gwella fforddiadwyedd tai i bobl leol neu gadw siaradwyr Cymraeg”.
Ar ôl rhannu pryderon gydag Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y gallai polisïau rheoli rhent arfaethedig arwain at lai o gyflenwad yn y farchnad, a bod Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016 yn gorfodi landlordiaid i werthu a gadael y sector, dywedodd Mr Isherwood:
“Maes arall lle mae disgwyl i bolisïau tai Llywodraeth Cymru gael effaith negyddol yw eu darpariaeth i awdurdodau cynllunio lleol wneud diwygiadau lleol i'r system gynllunio drwy Gyfarwyddyd Erthygl 4, gan ganiatáu iddyn nhw ystyried a oes angen caniatâd cynllunio i newid o un dosbarth defnydd i'r llall ac i reoli nifer yr ail gartrefi ychwanegol a thai tymor byr mewn ardal.
“Pa ystyriaeth ydych chi wedi’i rhoi felly i'r asesiad a wnaed gan Ymgynghoriaeth Cynllunio a Datblygu Lichfields, a gyfeiriwyd ataf gan breswylydd parhaol yng Ngwynedd, a oedd yn nodi:
“Er ein bod yn cydnabod y bwriad y tu ôl i'r cynigion, rydyn ni’n cwestiynu i ba raddau y byddai Cyfarwyddiadau Erthygl 4, fel yr un a gynigiwyd yng Ngwynedd, yn effeithiol o ran gwella fforddiadwyedd tai i bobl leol neu gadw siaradwyr Cymraeg. Er bod pwysau lleol mewn rhai ardaloedd, mae canolbwyntio ar dwristiaid ac ail gartrefi yn tynnu sylw i raddau oddi wrth yr angen ehangach i ddarparu rhagor o dai, yn y farchnad a thai fforddiadwy, ledled Cymru. Dylai'r system gynllunio ar lefel genedlaethol a lleol fod yn gatalydd ar gyfer sicrhau bod cyflenwad digonol o gartrefi”.
Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad ydyn nhw'n ceisio “cael gwared ar bawb gydag ail gartref neu sydd eisiau dod ar wyliau”, ond ychwanegodd “mae'r bobl hynny eisiau dod i gymunedau cynaliadwy lle gall pobl leol fyw a gweithio, a lle gall y siop leol a'r dafarn leol aros yn brysur gan nad ydyn nhw'n wynebu cyfnodau hir pan nad oes neb yno”.