Wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol heddiw ynglŷn â phenderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar Daliadau Tanwydd Gaeaf, mae’r AS dros y Gogledd, Mark Isherwood, wedi rhybuddio y gallai her gyfreithiol a lansiwyd gan ddau bensiynwr yn yr Alban arwain at oblygiadau i Gymru.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd y prynhawn yma, cyfeiriodd Mr Isherwood, sef Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid, at yr achos cyfreithiol yn yr Alban a gofynnodd pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith yr achos ar y 500,000 o bensiynwyr sydd wedi colli eu Taliad Tanwydd Gaeaf yng Nghymru.
Meddai:
“Diddymwyd taliadau tanwydd y gaeaf o werth hyd at £300 yn gyffredinol i bensiynwyr gan Ganghellor Llywodraeth Lafur y DU, fel gwyddoch chi. Maen nhw'n cyfaddef nawr na chafodd asesiad effaith ei gynnal ar bolisi a fydd yn effeithio ar tua 500,000 o bensiynwyr yma yng Nghymru yn unig. Dim ond yr wythnos diwethaf, fe bleidleisiodd aelodau Llafur yng nghynhadledd y blaid yn y DU o blaid cynnig yn galw ar Weinidogion y DU i wyrdroi eu toriad i lwfans tanwydd gaeaf y DU.
“Mae dau bensiynwr o'r Alban wedi lansio her gyfreithiol yn erbyn Llywodraethau'r DU a'r Alban dros y toriad mewn taliadau tanwydd gaeaf. Maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith bod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, i ystyried sut y bydd eu penderfyniadau a'u gweithredoedd nhw'n effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig amrywiol, sy'n cynnwys oedran ac anabledd. Mae elusen gyfreithiol Canolfan y Gyfraith Govan, sy'n eu cynrychioli nhw, yn dadlau bod y Llywodraethau wedi methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd hon wrth weithredu'r newidiadau i gymhwysedd taliadau tanwydd y gaeaf, gan ddweud na wnaeth y Llywodraethau gynnal asesiad effaith cydraddoldeb manwl a oedd yn angenrheidiol.
“Er mai yn yr Alban y cafodd yr achos ei godi, fe allai canlyniad hwnnw fod yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd. Pa drafodaethau a gafodd y Cwnsler Cyffredinol gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith bosibl yr achos hwn ar y 500,000 o bensiynwyr sydd wedi colli eu taliad tanwydd gaeaf yng Nghymru?”
Atebodd y Cwnsler Cyffredinol:
“Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n gwylio'r hyn a fydd yn digwydd yn yr achos cyfreithiol hwnnw gyda diddordeb mawr, ac os bydd y pensiynwyr hynny'n llwyddiannus, mae'n siŵr y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd camau priodol i unioni hynny. Fe fydd yn rhaid i ni aros i weld; nid oes unrhyw achos o'r fath gennym ni'n digwydd yma yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Isherwood:
“Fel nodwyd, mae i'r achos hwnnw yn yr Alban oblygiadau sylweddol i bob un o wledydd y DU.”