Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Galw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar Hawliau Iaith Arwyddion yng Nghymru

  • Tweet
Dydd Mercher, 2 Hydref, 2024
  • Local News
Galw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar Hawliau Iaith Arwyddion yng Nghymru

Heddiw, mae’r Aelod o’r Senedd dros y Gogledd a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Pobl Fyddar wedi galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar Hawliau Iaith Arwyddion.

Gwnaed yr alwad gan Mr Isherwood, y bydd ei ymgynghoriad ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yn cael ei lansio maes o law, yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma yn ystod y Datganiad Busnes.

Meddai:

“Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar eleni, adeg pan fo pobl yn dod at ei gilydd i gydnabod a dathlu'r gymuned fyddar fywiog. Y thema eleni yw 'Ymrwymo i Hawliau Iaith Arwyddion'.

“Yn ogystal â theimlo cysylltiad â'r gymuned fyddar, dylai pobl fyddar hefyd deimlo cysylltiad â'r gymdeithas ehangach a'r rhai heb nam ar eu clyw. Lle mae pobl yn dod at ei gilydd i ddangos ymwybyddiaeth o bobl fyddar o fewn cymunedau, gellir helpu pobl fyddar i gysylltu'n well ag eraill. Drwy gydol yr wythnos ryngwladol, gallai pobl ddysgu mwy am sut i gyfathrebu â phobl fyddar, gan gyfrannu at newid cadarnhaol a chwalu rhwystrau. Roedd gan bob diwrnod o'r wythnos thema swyddogol, gan gynnwys eiriolaeth iaith arwyddion, lle mae pawb yn cael eu hannog i eirioli'n weithredol dros hawliau unigolion byddar a chydnabod ieithoedd arwyddion cenedlaethol yn swyddogol. Ddydd Llun diwethaf oedd Diwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Arwyddion, gyda'r thema 'Ymrwymo i Hawliau Iaith Arwyddion', a oedd yn cynnwys galwad ar arweinwyr cenedlaethol. Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar hawliau iaith arwyddion yng Nghymru yn unol â hynny.”

Wrth ymateb, diolchodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes), Jane Hutt AS, i Mr Isherwood am "godi'r mater pwysig iawn hwn".

Ychwanegodd:

“Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n ystyried yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru. Rydych chi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaethau i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL a'i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, ac rydym yn credu y bydd dull mwy cydweithredol a chynhwysol yn effeithiol os gallwn ni gael effaith gadarnhaol ar y gymuned arwyddo BSL yng Nghymru.”

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree