Mae’r AS dros y Gogledd, Mark Isherwood, wedi bod yn cwestiynu'r Cwnsler Cyffredinol yr wythnos hon ynghylch yr ymgysylltu rhyngddi a Chymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn galw am i Gymru gynnig yr un Brentisiaeth Gyfreithiol Lefel 7 â Lloegr.
Mae'r Brentisiaeth Gyfreithiol Lefel 7 yn Brentisiaeth Cyfreithiwr chwe blynedd. Mae'r cynllun yn cynnwys yr holl gynnwys sydd mewn cwrs gradd yn y gyfraith ac yn galluogi Prentis i gael Gradd y Gyfraith a gradd LLM. Unwaith y bydd Prentis yn cwblhau'r Brentisiaeth ac yn pasio'r asesiad Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), gall y Prentis gymhwyso fel Cyfreithiwr.
Ar hyn o bryd, dim ond lefelau 3 a 5 y Brentisiaeth Gyfreithiol y mae Cymru yn eu cynnig.
Wrth godi'r mater yng Nghwestiynau'r Llefarydd i'r Cwnsler Cyffredinol yng nghyfarfod Senedd Cymru ddoe, gofynnodd Mr Isherwood hefyd am yr ymgysylltu a fu rhyngddi â Chymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru ynghylch eu galwadau am well data ar sector cyfreithiol Cymru.
Meddai:
“Bydd gweithredu goblygiadau cyfreithiol polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector cyfreithiol a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn gofyn am sector cyfreithwyr ffyniannus yng Nghymru, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at y sector yn gynharach.
“Pa ymgysylltiad a ydych chi'n ei gael, neu y byddwch chi'n ei gael, o ystyried y cyfnod byr y buoch chi yn y swydd hon, â Chymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru, sy'n cynrychioli, fel gwyddoch chi, farn proffesiwn cyfreithwyr Cymru, a blaenoriaethau cyfredol cyfreithwyr Cymru, ynghylch eu galwadau nhw am well data ar gyfer sector cyfreithiol Cymru ac er mwyn i Gymru allu rhoi cynnig sy'n cyfateb i'r cynnig sydd yn Lloegr o brentisiaeth gyfreithiol lefel 7?”
Atebodd y Cwnsler Cyffredinol:
“Fe fyddaf i'n cael sgyrsiau gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr, a gyda'r proffesiwn cyfreithiol yn ehangach ledled Cymru, i drafod nifer o faterion, gan gynnwys hyfforddiant gwasanaethau cyfreithiol a mynediad at y gyfraith.”