Mae Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi gwneud galwadau newydd am gyflwyno Prentisiaethau Cyfreithiol Lefel 7 yng Nghymru.
Fis diwethaf, gofynnodd Mr Isherwood i'r Cwnsler Cyffredinol pam fod Prentisiaethau Cyfreithiol ar gael yn Lloegr, ond ddim yng Nghymru.
Yng Nghwestiynau'r Llefarwyr i'r Cwnsler Cyffredinol heddiw, cododd y mater eto, a phwysleisiwyd manteision Prentisiaeth Gyfreithiol Lefel 7 i'r sector cyfreithiol yng Nghymru.
Meddai:
“Pan wnes i eich holi chi yn y fan hon fis diwethaf, fe ofynnais i chi pa ymgysylltiad a ydych chi'n ei gael gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru ynghylch ei galwadau am well data ar gyfer sector y gyfraith yng Nghymru ac i Gymru fod yn cydweddu â'r cynnig o brentisiaeth gyfreithiol lefel 7 sydd ar gael yn Lloegr. Yn eich ateb chi, roeddech chi'n dweud y byddech chi'n cael y trafodaethau hyn.
“Yn Lloegr, mae prentisiaethau cyfreithiol lefel 7 yn cynnig llwybr arall i fynd yn gyfreithiwr â chymwysterau heb angen ennill gradd prifysgol draddodiadol. Yng Nghymru, serch hynny, nid oes prentisiaethau cyfreithiol lefel 7 ar gael ar hyn o bryd. Mae cwmnïau o Gymru yn gorfod cystadlu gyda chwmnïau sy'n talu rhagor o arian dros y ffin yn Lloegr, sy'n denu llawer o dalent ifanc o Gymru.
“Fe allai prentisiaethau lefel 7 helpu i liniaru'r mater o ran bod ein poblogaeth ni o gyfreithwyr yn heneiddio, fel roedd adolygiad 2019 Jomati yn ei argymell, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y pryd. Fe allai eu cyflwyno nhw yng Nghymru, wedyn, helpu i gynyddu nifer y cyfreithwyr mewn ardaloedd lle ceir diffeithwch o ran cyngor ar hyn o bryd.
“Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi erbyn hyn, neu y byddwch chi'n eu cael gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr ac aelodau'r Cabinet ynglŷn â chyflwyno prentisiaethau lefel 7 yng Nghymru?’
Yn ei hymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Julie James AS, ar ôl cael ei holi gan Mr Isherwood ar y mater fis diwethaf, ei bod wedi cwrdd â Chymdeithas y Cyfreithwyr a chael "trafodaeth faith, trafodaeth ddefnyddiol iawn, ynglŷn â phrentisiaethau lefel 7, yn gyfochrog â materion eraill o ran hyfforddiant ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Efallai eich bod chi'n gwybod bod y proffesiwn cyfreithiol newydd ddechrau trosglwyddo o'r hen system i'r system arholi cymhwyso cyfreithwyr newydd, er enghraifft, ac nid ydym yn siŵr o effaith hynny eto.
“Rwy'n aros am bapur gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, y maent yn hapus iawn i'w rannu gyda mi, rwy'n gwybod, ar yr hyn y maent yn ei ystyried yw'r ffordd orau o ystyried defnyddio prentisiaethau lefel 7. Rwyf i'n trafod â'm cyd-Aelod Cabinet ar ein hagenda sgiliau ni hefyd, i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i gyfuno'r ddwy raglen hynny mewn gweithrediad cyffredin o ryw fath. Felly, rydym ni'n gweithio yn ddyfal iawn yn hynny o beth.”