Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
Site logo

Holi'r Gweinidog am gamau i ymestyn darpariaeth symudol yng Ngogledd Cymru

  • Tweet
Dydd Iau, 24 Awst, 2023
  • Senedd News

 

Gyda rhai ardaloedd yng Ngogledd Cymru yn dal i gael trafferth cael signal ffonau symudol, mae Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru, wedi holi Gweinidog yr Economi am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.

Yng nghyfarfod y Senedd ddoe, gofynnwyd i'r Gweinidog sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cysylltedd digidol yn y gogledd.

Yn ystod y cwestiwn, cyfeiriodd Mr Isherwood at gyfarfod a gafodd y llynedd gyda Digital Mobile Spectrum Limited (DMSL), sy'n ceisio ymestyn y ddarpariaeth yn y gogledd i 98% o ddarpariaeth 4G gan o leiaf un Gweithredwr Rhwydwaith Ffonau Symudol, a gofynnodd i'r Gweinidog pa gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael gyda'r cwmni.

Meddai:

"Yr haf diwethaf, ymunais ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer ymweliad â phrosiect Dalgylch Conwy Uchaf a chyfarfod gyda Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm, i drafod diffyg signal ffonau symudol yng Nghwm Penmachno. Mewn cyfarfod dilynol gyda Digital Mobile Spectrum Limited (DMSL) a Grŵp Gweithredu Cymunedol y Cwm, buom yn trafod Rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir.

"Mae DMSL, fel y gwyddoch rwy’n siŵr, yn fenter ar y cyd rhwng pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Ffonau Symudol y DU, i weithio dros fywyd digidol didrafferth i bobl ledled y DU. Mae’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, gyda £532 miliwn gan Weithredwyr Rhwydwaith Ffonau Symudol a £500 miliwn gan Lywodraeth y DU, yn ceisio ehangu'r ddarpariaeth yn y gogledd i signal 4G gan bob Gweithredwr Rhwydwaith Ffonau Symudol mewn 83 y cant o’r rhanbarth, a gan o leiaf un Gweithredwr Rhwydwaith Ffonau Symudol yn 98 y cant o’r ardal, ac, ledled Cymru, i 80 y cant gan yr holl Weithredwyr Rhwydwaith Ffonau Symudol, a 95 y cant gan o leiaf un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol.

"Fel y clywsom, 'allwch chi ddim cael cysylltedd heb yr isadeiledd'. Sut rydych chi'n ymgysylltu â DMSL felly? "

Yn ei ymateb, dywedodd y Gweinidog, Vaughan Gething AS, y byddai'n holi ei swyddogion eto am "eu cysylltiad penodol â'r sefydliadau rydych chi'n cyfeirio atyn nhw".

 

You may also be interested in

Rhaid i adroddiad damniol ar arferion cadw cyfrifon ym Mwrdd Iechyd Betsi wynebu craffu "prydlon a thrylwyr" gan Bwyllgor y Senedd

Dydd Iau, 24 Awst, 2023

 

Show only

  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2023 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Made in Britain
Wedi’i bweru gan Bluetree