Ar ôl herio Llywodraeth Cymru yn Siambr y Senedd yn ddiweddar ynghylch y diffyg cynnydd y mae wedi'i wneud o ran lleihau nifer y bobl awtistig neu bobl ag anabledd dysgu sy'n dal i fod dan glo mewn Canolfannau Asesu a Thriniaeth yng Nghymru a Lloegr, bydd Mark Isherwood AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth ac ar Anabledd, yn cyfarfod â'r Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar i drafod y mater.
Fis diwethaf, cyfeiriodd Mr Isherwood yn y Senedd at nifer y bobl awtistig a phobl ag anableddau dysgu sy'n dal i gael eu cadw mewn Ysbytai, Canolfannau Asesu a Thriniaeth a lleoliadau eraill, rhai ers degawdau.
Galwodd am Ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch pam mae nifer uchel yn dal i fod dan glo.
Cyfeiriodd hefyd at y brotest “Cartrefi, nid Ysbytai” gan ymgyrch Stolen Lives a gynhaliwyd ar risiau'r Senedd.
Trefnwyd y brotest gan grŵp o deuluoedd yn galw am ryddhau pobl ag anabledd dysgu a/neu bobl awtistig sy'n gaeth mewn ysbytai iechyd meddwl.
Yr wythnos hon yn y Senedd, codwyd y mater eto a dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar y byddai'n cyfarfod â chynrychiolwyr ymgyrch Stolen Lives yr wythnos nesaf a bod gwahoddid i Mark Isherwood i’r cyfarfod hefyd, oherwydd y gwaith y mae'n ei wneud a'i ddiddordeb yn y maes hwn.
Meddai Mr Isherwood:
“Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar ei bod yn cyfarfod â chynrychiolwyr yr ymgyrch Stolen Lives yr wythnos nesaf, ar 8 Mai, a'i bod yn awyddus i glywed yn uniongyrchol gan ASau sydd wedi bod yn codi hyn. Yn anffodus, ni allaf fynd i'r cyfarfod gan y byddaf yn cadeirio'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus bryd hynny. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar wedi cynnig cyfarfod â mi ar wahân erbyn hyn ac mae hyn yn cael ei drefnu ar hyn o bryd.
“Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â'r Gweinidog i drafod y mater hwn sy’n destun pryder mawr a'r ffyrdd posibl ymlaen.
“Fel y dywedodd Anabledd Dysgu Cymru, a gefnogodd y brotest y tu allan i'r Senedd: 'Dros ddeugain mlynedd yn ôl, Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i lansio strategaeth i gael pobl ag anabledd dysgu allan o ysbytai arhosiad hir ac yn ôl i'r gymuned. Roedd y Strategaeth Cymru Gyfan yn radical ac yn arloesol, ac eto ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae'n ymddangos ein bod yn cymryd camau am yn ôl ac yn llithro tuag at gadw pobl dan glo unwaith eto, er gwaethaf nifer o bolisïau a strategaethau dros y blynyddoedd sy'n datgan yn gwbl glir y dylid cynorthwyo pobl i fyw yn eu cymunedau ac nid cael eu rhoi dan glo mewn sefydliadau.