Wrth ymateb i'r Datganiad ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, ‘Mwy o gartrefi i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd’, cyfeiriodd Mr Isherwood at yr 11,000 o bobl a mwy sy’n ddigartref ac sy’n gorfod aros mewn llety dros dro yng Nghymru a’r bron i 140,000 sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol.
Beirniadodd Lywodraeth Lafur Cymru am dorri cyllid ar gyfer tai o 1999 ymlaen, gan "anwybyddu rhybuddion dro ar ôl tro am argyfwng tai" ac am "roi cychwyn ar yr argyfwng cyflenwad tai a oedd i ddilyn".
Meddai:
“Unig darged tai y Llywodraeth Cymru hon yw adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu yn ystod tymor pum mlynedd y Senedd hon. Fodd bynnag, dim ond 3,120 o gartrefi newydd a gwblhawyd yng Nghymru gan landlordiaid cymdeithasol yn ystod tair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon, sy'n is o lawer na tharged Llywodraeth Cymru o 20,000. Felly, newidiodd Llywodraeth Cymru y nod, gan ddweud ei bod bellach yn cyfrif rhai cartrefi nad ydynt yn adeiladau newydd ac nad ydynt yn garbon isel, ac erbyn hyn mae hefyd yn cyfrif cartrefi rhent canolraddol a rhanberchnogaeth. Ond hyd yn oed gyda hyn, mae Archwilio Cymru yn dal i ddisgwyl y bydd yn methu â chyflawni ei tharged.
“Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r amcangyfrif gan Archwilio Cymru y bydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid ychwanegol, yn methu â chyflawni ei tharged o 20,000 gan hyd at 4,140 o gartrefi, ac i argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru gynnal cynllunio senario manwl i roi arwydd clir a chynnar o gyllid ar gyfer y cynlluniau tai fforddiadwy allweddol yn 2025-26 ac asesu a nodi'r opsiynau ar gyfer parhau i ddiwallu'r angen am dai fforddiadwy yn y tymor hwy?
“Sut ydych chi'n ymateb i adroddiad ciplun sector Sefydliad Tai Siartredig Cymru heddiw, sy'n adlewyrchu pryder cyffredinol na fydd targed Llywodraeth Cymru o sicrhau 20,000 o dai fforddiadwy yn cael ei gyflawni erbyn y dyddiad cau ym mis Mawrth 2026, ac i'w ddadansoddiad cost budd o'r hawl i dai digonol, a oedd yn amlinellu bod angen i ni fod yn adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol dros gyfnod o 10 mlynedd ar ben yr 20,000 o gartrefi y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo iddynt yn ystod tymor y Senedd hon?
Hefyd, heriodd Mr Isherwood Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y ffaith bod disgwyl i Lywodraeth Cymru lansio ei hymgynghoriad ar eu Papur Gwyn ar Ddigartrefedd cyn toriad yr Haf, ond ei bod wedi methu â gwneud hynny, a gofynnodd pryd y bydd hynny’n digwydd.
Dywedodd hefyd:
“Yn ddiweddar, cynhaliodd Tai Taf ford gron yn y Senedd, a oedd yn cynnwys Cymorth Cymru, y Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth, Cartrefi Cymunedol Cymru a Sefydliad Bevan. Nododd hyn dri cham allweddol sydd eu hangen i gefnogi dod â digartrefedd i ben. Sut ydych chi'n ymateb i'r rhain, a oedd yn cynnwys sicrhau cyflenwad digonol o dai drwy fynd i'r afael â chyfyngiadau cynllunio, tanfeddiannaeth a chartrefi gwag, a symud i ffwrdd o wariant adweithiol i ganolbwyntio ar atal?
Pwysleisiodd Mr Isherwood, “er bod darparu mwy o gartrefi yn allweddol, ni fydd ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael â'r sefyllfa gyson o fod yn ddigartref pan nad eir i'r afael â llu o achosion cymhleth, gan gynnwys chwalfa teulu, cam-drin, camddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl gan gynnwys trawma, hefyd”.
Nododd hefyd fod data Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn dangos bod galw tenantiaid yng Nghymru yn parhau i gynyddu yn y sector rhentu preifat, ond bod nifer yr eiddo newydd sy'n dod ar y farchnad yn gostwng, a bod data cofrestru Rhentu Doeth Cymru yn dangos, o beidio â chyfrif Caerdydd ac Abertawe, fod dros 5,500 o gartrefi rhent preifat wedi'u colli ers 2021.