Mae Ysgrifennydd y Cabinet yr Wrthblaid dros Dai a Chynllunio i’r Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood AS, wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am fethu ag adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n wynebu Cymru.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai yng Nghwestiynau'r Llefarwyr heddiw, dywedodd Mr Isherwood mai bai Llywodraeth Lafur Cymru yw’r argyfwng cyflenwad tai presennol ar ôl iddi dorri cyllid ar gyfer tai ers 1999 ac anwybyddu rhybuddion dro ar ôl tro am argyfwng tai, Mae’r argyfwng bellach wedi golygu bod bron i 140,000 o bobl ar restrau aros tai cymdeithasol erbyn hyn.
Pwysleisiodd fod Adolygiad Tai 2012 y DU yn nodi, erbyn 2009-10, mai Llywodraeth Cymru oedd â'r lefel gyfrannol isaf o lawer o wariant tai o unrhyw un o bedair gwlad y DU, a bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i fod ar ei hôl hi oedi byth ers hynny.
Ychwanegodd:
“Mae cymdeithasau tai gogledd Cymru wedi tynnu sylw at adroddiad Archwilio Cymru, a ganfu, heb gyllid ychwanegol, y bydd Llywodraeth Cymru 4,140 yn fyr o'i tharged o 20,000 o gartrefi. Fel y dywed Sefydliad Bevan, mae darpariaeth cartrefi cymdeithasol newydd yn brin o gymharu â dyheadau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â realiti’r galw cynyddol. Ac fel y dywed Cartrefi Cymunedol Cymru, yr hyn sydd ei angen arnynt yn fawr yw setliad amlflwyddyn cynaliadwy a hirdymor.”
Gofynnodd i Ysgrifennydd y Cabinet pa sicrwydd y gall ei roi y bydd “y cyllid cartrefi fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael fel cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU - a mwy, gobeithio - yn cael ei ddyrannu’n llawn ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru?”
Cyfeiriodd hefyd at adroddiad newydd Shelter Cymru yn dangos, yn 2023-24, bod cyfanswm cost llety dros dro yng Nghymru wedi cyrraedd £99 miliwn, mwy na dwbl yr hyn ydoedd yn 2020-21, gan bwysleisio bod hyn yn tynnu sylw at "y cynnydd sylweddol mewn llety dros dro yng Nghymru, ac effaith hyn ar bobl, gyda dros 11,000 o bobl, gan gynnwys bron i 3,000 o blant, bellach yn byw mewn lleoedd o’r fath."
Meddai:
“Mae eu hymchwil hefyd yn dangos dibyniaeth gynyddol ar ddarpariaeth sector preifat. Sut rydych chi'n ymateb felly i alwadau gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl am gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phrinder dybryd o gartrefi i’w gosod yn breifat, gyda’r galw yn fwy na’r cyflenwad, sydd nid yn unig yn rhoi pwysau cynyddol ar renti, ond hefyd yn tanseilio pŵer prynu tenantiaid yn y farchnad, gan ei gwneud yn fwy anodd i ddwyn landlordiaid gwael a throseddol i gyfrif, ac i’r datganiad gan Cartrefi Cymunedol Cymru - llais cymdeithasau tai yng Nghymru, fel y gwyddoch - wrth inni agosáu at gyllideb Llywodraeth Cymru, fod angen cynnal y grant cymorth tai mewn termau real fan lleiaf, a chadw pobl yn eu cartrefi?’
Cyfeiriodd hefyd at ddatganiad y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi fis diwethaf bod Cymru'n parhau i wynebu argyfwng fforddiadwyedd tai, a achoswyd, yn rhannol, gan ddiffyg cyflenwad newydd o dai dros ddegawdau lawer.
Meddai:
“Yn wir, dywedant fod data diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y cyflenwad tai yn cadarnhau mai'r nifer o anheddau newydd a adeiladwyd yng Nghymru ym mlwyddyn ariannol 2023-24 oedd y nifer isaf ond un a gofnodwyd erioed. Yn ychwanegol at hynny, roedd fframwaith 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' gan Lywodraeth Cymru yn amcangyfrif fod angen 7,400 o gartrefi ychwanegol bob blwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2019-24, gyda'r rhan fwyaf i'w rhentu neu eu gwerthu ar y farchnad. Fodd bynnag, dim ond 5,498 oedd y nifer cyfartalog a gwblhawyd dros y pum mlynedd diwethaf.
“Gan nodi’r datganiad gennych yn gynharach ar gymorth i ddarparu tai, a gyhoeddwyd 50 munud yn ôl yn unig, a ydych chi'n cytuno bod angen ateb marchnad gyfan arnom i’r argyfwng tai yng Nghymru? Ac os felly, sut y byddwch yn cydgynhyrchu, yn cydgynllunio ac yn cydgyflawni atebion gyda darparwyr tai, gan gynnwys landlordiaid preifat ac adeiladwyr tai, gyda landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau lleol ar draws y sector cyfan?”
Yn ddiweddarach, ychwanegodd Mr Isherwood:
"Fe wnaeth y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi hefyd dynnu sylw at faterion gan gynnwys ymyriadau Llywodraeth Cymru a oedd yn gohirio darparu tai, a methiant Llywodraeth Cymru i dderbyn llawer o gynigion yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar gyfer diwygio'r system gynllunio".