Wrth siarad yn Nadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar y polisi economaidd, dywedodd yr AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, bod "chwarter canrif o Lywodraeth Lafur Cymru wedi gadael ein heconomi yn tangyflawni a phobl Cymru ar eu colled o ganlyniad".
Cyfeiriodd at y ffaith mai Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf, pecynnau cyflog isaf, cyfanswm allbwn isaf y pen a'r cyfraddau anweithgarwch economaidd uchaf yn y DU.
Meddai:
"Roedd datganoli i fod i adfywio'r economi a rhyddhau cyfleoedd bywyd pobl Cymru.
"Fodd bynnag, er y gall Cymru fod yn genedl ystwyth gydag economi ffyniannus a chyflogau uchel, mae ei hysbryd entrepreneuraidd wedi'i gadw ar dennyn ac yn anffodus, nid yw hyn wedi digwydd.
"Mae chwarter canrif o Lywodraeth Lafur Cymru wedi gadael ein heconomi yn tangyflawni a phobl Cymru ar eu colled o ganlyniad.
"Yn hytrach nag ildio i seirenau Llafur a Phlaid Cymru i gymryd camau a fyddai wedi hybu chwyddiant ac wedi cynhyrchu toriadau mwy yn y dyfodol, gan wneud pawb yn waeth eu byd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cymryd y camau angenrheidiol i dorri chwyddiant o dros 11% i bron i 2% uwchlaw’r cyfraddau llog a osodwyd yn annibynnol gan Fanc Lloegr, gyda chyflogau real yn tyfu am yr unfed mis ar ddeg yn olynol, bron i 4 miliwn yn fwy o bobl mewn gwaith, a diweithdra ymhlith pobl ifanc i lawr 370,000 ers 2010, ac anweithgarwch economaidd yn is nag ar unrhyw adeg o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU.
“Fodd bynnag, mae pwysau marw Llywodraeth Lafur Cymru wedi gadael Cymru â’r gyfradd gyflogaeth isaf, y pecynnau cyflog isaf, y cyfanswm allbwn isaf y pen o gynnyrch domestig gros, a’r cyfraddau anweithgarwch economaidd uchaf yn y DU.
"Roedd hyn, er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael biliynau mewn cyllid dros dro gyda'r bwriad o gau'r bwlch ffyniant yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU."
Amlygodd Mr Isherwood fod Cymru wedi derbyn dros £2.5bn o gyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU drwy nifer o gynlluniau gwahanol gyda'r nod o ledaenu ffyniant a rhoi mwy o lais i gymunedau ynglŷn â sut y caiff yr arian ei wario.
Cyfeiriodd hefyd at fuddsoddiad £2 biliwn Llywodraeth y DU yn Network Rail a £340 miliwn ar gyfer gwelliannau i reilffyrdd Cymru rhwng 2019 a 2024; Cynllun pum mlynedd Network Rail ar gyfer rheilffyrdd rhanbarth Cymru a'r Gorllewin, sy'n cynnwys buddsoddiad o £1.9bn yn llwybr Cymru a'r Gororau; a chynlluniau Llywodraeth y DU i uwchraddio’r rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys £1 biliwn i drydaneiddio prif linell reilffordd Gogledd Cymru, a £700,000 i Trafnidiaeth Cymru wneud gwaith archwilio ar gyfer uwchraddio Gorsafoedd Shotton a Chaer a chynyddu capasiti prif linell reilffordd Gogledd Cymru.
Ychwanegodd:
"Er mwyn tynnu sylw oddi wrth eu methiannau dybryd eu hunain, maent yn sôn am gyni fel polisi a ddewiswyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, er mai Blair a Brown oedd penseiri cyni.
"Erbyn 2010, diffyg cyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE.
"Os oes gennych ddiffyg mawr, mae rhywun yn berchen arnoch ac yn gosod y telerau, a byddent wedi gorfodi mwy o doriadau pe baem wedi dilyn y polisïau economaidd a hyrwyddid gan Lafur a Phlaid Cymru, fel a ddigwyddodd yn Iwerddon a Gwlad Groeg, ac fel a ddigwyddodd pan orfodwyd Llywodraeth Lafur y DU i fenthyg gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol ym 1976. Rwy'n ddigon hen i gofio hynny; collodd fy nhad ei swydd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.
“Maent yn ceisio taflu'r bai ar gyfnod byr Liz Truss wrth y llyw, gan osgoi'r realiti fod y bunt, cost benthyca a'r marchnadoedd wedi gwella cyn gynted ag y gwnaeth Rishi Sunak a Jeremy Hunt adfer sefydlogrwydd.
“Dim ond rhywun hurt iawn a fyddai’n honni—fel y gwnânt hwy—fod yr argyfwng costau byw presennol wedi’i greu yn San Steffan, ac mae gan 33 o wledydd Ewropeaidd, ardal yr ewro ac 17 o wledydd y G20 gyfraddau chwyddiant uwch na'r DU ar hyn o bryd yn sgil yr argyfwng costau byw byd-eang.
I gloi, mae gobaith ar gyfer y dyfodol, ar yr amod na chaiff Llywodraeth Lafur y DU ei hethol i ddinistrio'r economi unwaith eto.