Yn Siambr y Senedd y prynhawn yma, pwysleisiodd yr AS dros Ogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood AS, yr angen am welliant yn y system gofal cymdeithasol ar gyfer teuluoedd â phlant anabl.
Fe wnaeth Mr Isherwood, Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid, godi'r mater yng Nghwestiynau'r Llefarwyr i'r Cwnsler Cyffredinol.
Meddai:
“Mae Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr yn adolygu'r gyfraith ar hyn o bryd ynglŷn â gofal cymdeithasol i blant anabl yn Lloegr, gan geisio gwneud y system gofal cymdeithasol ar gyfer teuluoedd â phlant anabl yn decach, yn symlach ac yn gyfredol.
“Mae elusennau anabledd a'r gwaith achos a wnaf i'n cadarnhau bod problemau i'w cael, gan gynnwys asesiadau sy'n gorgyffwrdd, dryswch ac aneffeithlonrwydd, loteri cod post o ran mynediad i wasanaethau, a drysu rhwng amddiffyn ac anghenion plant, a bod y materion hyn yn amlwg yng Nghymru hefyd.
“Pa ymgysylltiad a ydych chi'n ei gael felly gyda Chomisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr ynghylch eu hadolygiad cyfredol o'r gyfraith ynglŷn â gofal cymdeithasol i blant anabl yn Lloegr? A pha drafodaethau a ydych chi'n eu cael gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet yn y cyd-destun hwn, os ydych chi'n eu cael nhw o gwbl?”
Yn ei hymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol nad ydyn nhw'n cael unrhyw drafodaeth gyda Chomisiwn y Gyfraith ar hyn o bryd, ond eu bod "wedi bod yn trafod y materion amrywiol sy'n ymwneud â meysydd polisi yn gwrthdaro, ac fe fydd hynny'n parhau".