Ar ôl cefnogi ymdrechion hir i wneud strydoedd a rennir a mannau cyhoeddus awyr agored yn fwy hygyrch i bobl sy'n byw â nam ar eu golwg, mae’r AS dros y Gogledd a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi pwysleisio'r angen i gynnwys pobl ddall a rhannol ddall wrth lunio a darparu gwasanaethau.
Wrth siarad yn y ddadl fer yr wythnos hon: 'Cyfle teg - Sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu byw'r bywyd maen nhw'n ei ddewis', cyfeiriodd Mr Isherwood at ymgyrch Cŵn Tywys Cymru ar gyfer Strydoedd Mwy Diogel.
Dywedodd fod dyluniadau strydoedd yn creu rhwystrau i bobl anabl, a gallai hyn gael ei osgoi pe baen nhw'n rhan o'r cam dylunio.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Mae 21 mlynedd bellach ers imi fynychu digwyddiad Cŵn Tywys Cymru yma am y tro cyntaf, lle amlygwyd yr angen i wneud strydoedd a rennir a mannau cyhoeddus awyr agored yn fwy hygyrch i bobl ag amhariad ar eu golwg.
“Yn fwy diweddar, mae eu hymgyrch dros strydoedd mwy diogel hefyd wedi pwysleisio, er na ddylai mesurau teithio llesol fyth roi cerddwyr mewn perygl, fod llawer o lwybrau beicio wedi’u gosod ar droedffyrdd heb unrhyw linellau clir rhwng y llwybrau beicio a llwybrau cerddwyr, ac maent wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno archwiliadau llawer mwy trylwyr cyn dyrannu cyllid i lwybrau teithio llesol newydd.
“Gan weithio gyda Chyngor Cymru i'r Deillion, Vision Support ac RNIB Cymru, maent hefyd wedi rhoi tystiolaeth i'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd, gan dynnu sylw at brinder hyfforddiant sefydlu a chymorth i blant a phobl ifanc ag amhariad ar eu golwg. Dim ond drwy gynnwys pobl ddall a rhannol ddall yn gynnar yn y broses gynllunio a darparu gwasanaethau y bydd modd iddynt fyw y bywyd y dewisant ei fyw.”