Mae’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi holi'r Prif Weinidog yr wythnos hon ynglŷn â'r orsaf gynhyrchu trydan arfaethedig yn Chwarel Seiont yng Nghaernarfon a gofynnodd sut y bydd ei Lywodraeth yn sicrhau diogelwch ynni yn ystod y blynyddoedd o bontio i ddyfodol carbon-niwtral.
Cododd Mr Isherwood y mater yng nghyfarfod Senedd Cymru ddoe yn ystod cwestiwn ar bolisi Llywodraeth Cymru ar bwerdai nwy newydd yn Arfon.
Dywedodd:
“Mae pryderon am gynlluniau i greu gweithfeydd nwy yn Arfon wedi cyfeirio at yr angen i symud oddi wrth ddibyniaeth ar danwydd ffosil i gynhyrchu ynni.
“Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol yn diffinio Diogelwch Ynni fel argaeledd di-dor o ffynonellau ynni am bris fforddiadwy.
“Mae'r lefelau presennol o dechnoleg ynni a seilwaith yn golygu bod angen cyflenwad wrth gefn ar gyfer ynni adnewyddadwy ysbeidiol, sy'n parhau i ddibynnu ar danwydd ffosil, nwy yn bennaf.
“Mae hyn yn debygol o barhau i fod yn wir am ran helaeth o'r cyfnod pontio i ddyfodol carbon niwtral a byddai esgus fel arall yn anghymwynas â'r cyhoedd.
“Deellir y byddai'r pwerdy nwy arfaethedig ar hen safle Chwarel Gwaith Brics Seiont Caernarfon yn waith wrth gefn a fyddai’n gweithredu dros dymor byr (“Peaking Plant”).
“Byddai hyn yn darparu ymateb cyflym ac yn cydbwyso galw, yn enwedig pan fydd allbynnau gwynt a solar yn isel.
“Sut mae Llywodraeth Cymru’n cynnig sicrhau diogelwch ynni yn ystod y blynyddoedd o bontio i ddyfodol carbon-niwtral, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu aros yn gynnes, cael eu bwydo a'u hydradu heb ymyrraeth?”
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
“Alla i ddim, ac ni fyddaf yn gwneud sylw ar y cais unigol. Nwy yw'r brif dechnoleg wrth gefn; mae storio hydro a batri’n cael eu defnyddio hefyd. Mae hynny'n ffaith ac yn realiti. Nid oes dim o hynny’n symud oddi wrth y sefyllfa rwyf wedi’i hegluro yma sef bod yna ragdybiaeth yn erbyn cynhyrchu tanwydd ffosil newydd yng Nghymru. Rhaid ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod, sef yr union beth fydd yn digwydd gydag unrhyw gais a godwyd gan yr Aelod heddiw neu y gallai ei wneud yn y dyfodol.”
Wrth siarad wedyn, dywedodd Mr Isherwood:
“Mae datganiad y Prif Weinidog bod 'yna ragdybiaeth yn erbyn cynhyrchu newydd drwy danwydd ffosil yng Nghymru' yn anwybyddu'r realiti technolegol a gwyddonol nad dewis 'naill ai/neu' yw hwn. Mae technoleg batri presennol yn darparu ychydig oriau wrth gefn ar y gorau yn unig. Mae methu â derbyn a chynllunio ar gyfer y realiti hwn yn peryglu gadael pobl yn oer, yn newynog, yn sychedig ac yn agored i sefyllfaoedd sy'n peryglu bywyd.”