Heddiw, mae’r AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ymddiheuro i deuluoedd yr holl gleifion a ddioddefodd gam-drin sefydliadol ar Uned Iechyd Meddwl Hergest a Ward Dementia Tawel Fan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan dynnu sylw at ymateb diystyriol y Prif Weinidog iddyn nhw.
Yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, holodd Mr Isherwood Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y cam-drin sefydliadol ar Uned Iechyd Meddwl Hergest a Ward Dementia Tawel Fan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gafodd ei amlygu mewn adroddiadau olynol, a gofynnodd pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro i deuluoedd y dioddefwyr.
Meddai:
"Dywed teuluoedd Tawel Fan, ym mis Hydref 2018, fod yr Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd, sydd bellach yn Brif Weinidog, Vaughan Gething wedi dweud wrthyn nhw nad cam-drin sefydliadol oedd yr hyn roedden nhw wedi'i weld a, phan wnaethon nhw ei holi, fe gerddodd allan.
"Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2018, dywedodd Vaughan Gething ei fod yn fodlon bod y cynlluniau a roddwyd ar waith gan y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr adroddiad yn "gynhwysfawr a chadarn".
"Mae adroddiad newydd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion sy'n edrych ar argymhellion mewn pedwar adroddiad blaenorol bellach wedi canfod bod llai na hanner y rhain wedi cael eu gweithredu'n llawn.
"Hefyd, mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bellach wedi gosod gorchymyn i ddileu aelodaeth Nyrs Staff Seiciatrig yr oedd ei hymddygiad ymosodol wedi achosi niwed i gleifion a thystion bregus ar Ward Tawel Fan.
"Beth fydd atebolrwydd ac ymddiheuriad Llywodraeth Cymru i'r teuluoedd erbyn hyn, lle mae hyn wedi datgelu'r un diwylliant o guddio, beio dioddefwyr a bwlio chwythwyr chwiban rydyn ni wedi’i weld yn Sgandalau’r Swyddfa'r Post a Gwaed Heintiedig?"
Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl:
"Fel rhan o'r ymyrraeth Mesurau Arbennig, comisiynodd Llywodraeth Cymru Goleg Brenhinol y Seiciatryddion i gynnal adolygiad i asesu i ba raddau y mae argymhellion o'r adolygiadau iechyd meddwl blaenorol wedi'u cwblhau. Mae'r adroddiad wedi'i rannu gyda theuluoedd ac fe'i trafodwyd yng nghyfarfod y bwrdd ddydd Iau diwethaf, 30 Mai. Mae'n dangos nad yw'r cynnydd yn erbyn nifer o'r argymhellion wedi cael ei gynnal. Mae hyn yn destun siom mawr, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn cymryd ac yn ymgorffori'r camau priodol."