Yn wythnos Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad, mae’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood wedi galw ar bobl i gofio gwir ystyr “Yn angof ni chânt fod”.
Wrth gymryd rhan yn Nhrafodaeth ‘Cofio’ y Senedd heddiw fel y Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol, pwysleisiodd Mr Isherwood y rheswm dros gyfnod y Cofio a’r angen parhaus i gefnogi pawb sy’n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu, yn ein Lluoedd Arfog.
Meddai:
“Mae cyfnod y Cofio’n gyfle i ni: Dalu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob cwr o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog; cydnabod gwaith sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy’n cefnogi cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr ledled Cymru; helpu cenedlaethau’r dyfodol i ddeall rhyfeloedd y gorffennol, lle mae’r gorffennol yn llywio’r dyfodol; cofio pawb a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd ac ymladd, yn cynnwys sifiliaid; a chefnogi’r angen am atebion heddychlon i bob gwrthdaro.
“Mae’r cofio eleni’n dynodi 70 mlynedd ers y Cadoediad a roddodd derfyn ar yr ymladd yn Rhyfel Korea, y “Rhyfel Angof”, ac yn anrhydeddu cyfraniad y genhedlaeth mewn iwnifform a gwblhaodd Wasanaeth Cenedlaethol, 60 mlynedd ar ôl rhyddhau’r milwr olaf i wneud hynny.
“Roedd fy nhad yn Filwr Gwasanaeth Cenedlaethol ddegawd cyn hynny, gan wasanaethu yng Nghyprus a’r Aifft.
“Yn ystod Rhyfel Korea, anfonwyd unedau o’r Gatrawd Gymreig i Korea, gyda chwmni o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a phlatŵn o Ffinwyr De Cymru. Lladdwyd 32 aelod o’r Gatrawd Gymreig yn y brwydro.
“Mae’r cofio yn 2023 yn dynodi 75 mlynedd hefyd ers i setlwyr gyrraedd o’r Caribî ar yr Empire Windrush, llawer ohonynt yn gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd.”
Cyfeiriodd Mr Isherwood eto at yr Ymgyrch ‘Credit their Service’ a lansiwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn galw ar drin iawndal milwrol fel incwm ar draws profion modd budd-daliadau lles. Ym mis Gorffennaf, pwysleisiodd yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu ac i Awdurdodau Lleol Cymru sicrhau bod hyn yn digwydd.
Meddai:
“Mae cant a hanner o filoedd o aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog yn derbyn iawndal milwrol a roddir i gynorthwyo gyda chostau parhaus salwch neu anaf a gafwyd wrth wasanaethu.
“Mae profion modd yn golygu bod rhai o aelodau tlotaf Cymuned y Lluoedd Arfog yn methu cael miloedd o bunnoedd o gymorth, tra bod iawndal sifil, am bethau fel anaf personol neu esgeulustod meddygol, wedi’i eithrio o hyn. Er ei fod yn fater i’r DU gyfan, mae hyn yn cynnwys meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn arwain, ac felly rydym yn disgwyl iddi ymateb.”
Cyfeiriodd hefyd at Ddyletswydd Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a’r ffaith bod y Canllawiau Statudol arni wedi’u cyhoeddi fis Tachwedd diwethaf, wedi’u cynhyrchu gan Lywodraeth y DU mewn ymgynghoriad â’r Llywodraethau Datganoledig, gan osod Dyletswydd gyfreithiol ar Awdurdodau Penodedig i roi sylw dyledus i egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog wrth gyflawni rhai swyddogaethau statudol ym meysydd datganoledig gofal iechyd, addysg a thai; nododd fod Llywodraeth y DU wedi lansio pecyn cyllid £33 miliwn ym mis Mawrth i gynorthwyo cyn-filwyr dros y tair blynedd nesaf, a'i bod wedi lansio Op FORTITUDE ar gyfer cyn-filwyr digartref ym mis Gorffennaf, y llinell gymorth cyntaf o’i bath a rhan o raglen £8.55 miliwn dwy flynedd i gyflawni addewid Llywodraeth y DU i roi terfyn ar gyn-filwyr yn cysgu ar y stryd; tynnodd sylw hefyd at yr angen am Fentoriaid Cymheiriaid ‘Newid Sylweddol’ ar gyfer Cyn-filwyr ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Gorffennodd trwy ddweud:
“Pan fyddwn ni’n dweud “Yn angof ni chânt fod”, mae’n bwysig cofio beth yw gwir ystyr hyn.