Heddiw, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi herio'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch dyhead Llywodraeth Cymru i ailagor Gorsaf Reilffordd Cyffordd Treffynnon ym Maes-glas.
Yng nghyfarfod Senedd Cymru y prynhawn yma, galwodd Mr Isherwood am ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog ar y camau gweithredu hyd yma ac roedd yn siomedig o glywed mai dim ond ‘cymryd camau i ariannu camau cyntaf datblygiad achos busnes’ maen nhw wedi’i wneud ers 2019 i ailagor yr Orsaf.
Hefyd, holodd Mr Isherwood am orsafoedd Parc Glannau Dyfrdwy a Shotton.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig bedair blynedd yn ôl, dywedodd Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth ar y pryd, ‘Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu proses asesu 3 cham ar gyfer gorsafoedd newydd’ i ‘sicrhau bod cyfres o gynlluniau newydd ar gael i fanteisio ar gyfleoedd ariannu yn y dyfodol gan Lywodraeth y DU', a bod gorsaf Cyffordd Treffynnon ym Maes-glas wedi'i hychwanegu at y rhestr o orsafoedd newydd posibl.
"Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gefais gennych yr wythnos hon, fe gyfeirioch chi at ddyhead Llywodraeth Cymru i ailagor yr orsaf, pe bai cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, gan ychwanegu, 'Yn y cyfamser, rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar wneud y gorau o'r seilwaith presennol, dull a gefnogir gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn eu hadroddiad interim.' Fodd bynnag, mae eu hadroddiad interim yn cynnwys cefnogaeth i greu gorsaf newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy hefyd, a gwaith i wneud gorsaf Shotton yn gyfnewidfa bwysig.
"Pa gamau pellach a gymerwyd, felly, mewn perthynas â gorsaf Maes-glas, yn y pedair blynedd ers i mi godi hyn gyntaf, a beth yw eich dealltwriaeth bresennol o’r sefyllfa gyda gorsafoedd Parc Glannau Dyfrdwy a Shotton?
Yn ei ymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Rydym wedi cymryd camau i ariannu camau cyntaf y gwaith o ddatblygu achos busnes er mwyn diogelu ein dyhead ar gyfer ailagor gorsaf Maes-glas yn Nhreffynnon pe bai cyllid ar gael ar gyfer yr orsaf. Ond fel y dywedodd ar ddechrau'r cwestiwn hwn, mae'n fater o ‘pan fydd cyfleoedd ar gyfer cyllid yn codi.’ Wel, nid ydynt yn codi'n aml iawn, a dyna’n problem.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
“Felly, er gwaethaf ‘proses asesu gorsafoedd’ 3 cham a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019, dim ond ‘wedi cymryd camau i ariannu camau cyntaf y gwaith o ddatblygu achos busnes’ dros ailagor Gorsaf Maes-glas Treffynnon maen nhw. Ni chafwyd unrhyw sôn am Orsafoedd Parc Glannau Dyfrdwy a Shotton yn ei ymateb chwaith.”