Heddiw, mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Awtistiaeth y Senedd, Mark Isherwood, wedi annog Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cymorth sydd ei angen o hyd gan y rhai â chyflyrau niwroamrywiol, gan gynnwys Awtistiaeth, a rhoi diwedd ar y camweddau hawliau dynol hirsefydlog y maent yn eu hwynebu.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, cyfeiriodd Mr Isherwood at adroddiad newydd sydd wedi dangos bod 90% o rieni plentyn Awtistig wedi dweud na chafodd eu plentyn y cymorth cywir o ganlyniad i fwrw bai ar rieni, a bod dros 70% o rieni yn dweud bod iechyd meddwl eu plentyn wedi gwaethygu.
Gan alw am weithredu hirddisgwyliedig, dywedodd Mr Isherwood:
“Nid yw cyflyrau niwroamrywiol, gan gynnwys Awtistiaeth, yn gyflyrau iechyd meddwl; maent yn gyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes sy’n ffurfio sut y mae pobl yn gweld y byd a sut y maent yn cysylltu ag eraill.
“Mae llawer o bobl Awtistig yn cael pyliau o chwalfa pan fyddant wedi’u gorlethu, ac mae eu cyflwr yn golygu ei bod yn anodd mynegi hynny mewn ffordd arall. Nid yw’r un peth â stranc wrth golli tymer, ac nid yw’n ymddygiad drwg neu wael.
“O dan yr amgylchiadau hyn, fodd bynnag, mae pobl ifanc Awtistig yn parhau i gael eu gwahardd o ysgolion Cymru yn anghyfreithlon, ac mae eu rhieni’n parhau i gael eu beio ac yn destun gweithdrefnau amddiffyn plant.
“Mae’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Lloegr bellach wedi cyhoeddi adroddiad ar Awtistiaeth a beio rhieni, sy’n nodi bod 90 y cant o rieni wedi dweud na chafodd eu plentyn y cymorth cywir o ganlyniad i feio’u rhieni. Dywedodd dros 70 y cant o’r rhieni hynny fod iechyd meddwl eu plentyn wedi gwaethygu, gydag un o bob pedwar rhiant yn nodi risg uchel o hunanladdiad ar gyfer eu plentyn.
“Felly, yn lle parhau i daflu arian a chyfrifoldeb at y cyflawnwyr yn y sector cyhoeddus sy’n parhau i fod yn gyfrifol am hyn yng Nghymru, pryd, os o gwbl, y gwnewch chi gymryd camau o’r diwedd i roi diwedd ar yr arfer hirsefydlog hwn o dorri hawliau dynol?”
Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Nid wyf yn derbyn honiad yr Aelod yn ail hanner ei gwestiwn. Mae’n faes heriol, ac yn fy mhrofiad i, mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yn ceisio gwneud eu gorau dros bobl ifanc, beth bynnag y bo’u hanghenion.”
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
“Dylai Ysgrifennydd y Cabinet weld fy ngwaith achos i! Mae rhieni’n cysylltu â’m swyddfa bob dydd i fynegi eu rhwystredigaeth bod eu plentyn Awtistig yn cael cam gan y system.
“Ym mhob un achos, mae rhieni Awtistig neu rieni plant Awtistig yn cael eu trin fel y broblem gan swyddogion lefel uchel yn y sector cyhoeddus, sydd wedi methu â nodi eu hanghenion cyfathrebu, synhwyraidd a phrosesu, ac sy’n dal i’w brwydro yn hytrach na chydnabod mai nhw oedd achos y rhwystrau a wynebwyd ac mai nhw allai gynnig yr ateb i ddileu’r rhwystrau hynny.”