Heddiw, mae Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru, wedi rhoi ei gefnogaeth lawn a chryf i gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ‘gefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau Epilepsi’.
Galwodd y cynnig hefyd ar Lywodraeth Cymru i ‘gefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws Byrddau Iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth’.
Wrth siarad yn y ddadl, dywedodd Mr Isherwood:
“Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn i'r carn. Roeddwn i'n falch o ychwanegu fy enw at y rhestr o gefnogwyr, ond mae'n teimlo ychydig fel ‘Groundhog Day’. Yn 2016 ac eto yn 2017, wrth siarad yn y Senedd, dywedais nad oes gan rai ardaloedd yng Nghymru fynediad at wasanaethau epilepsi, fel Nyrsys Epilepsi, gwasanaethau eiriolaeth neu hyfforddiant, gan gynnwys darpariaeth iechyd neu addysg arbenigol.
“Dywedais fod rhieni plant ag epilepsi ac anghenion cymhleth yn ei chael hi'n anoddach cael gafael ar addysg briodol i'w plentyn, a'u bod yn fwy tebygol o gael anawsterau gyda thrafnidiaeth, goruchwyliaeth feddygol, darpariaeth cymorth cyntaf, neu feddyginiaeth, o gymharu â theuluoedd eraill. Hefyd, nodais fod oedolion ag epilepsi ac anghenion cymhleth yn ei chael hi'n anodd cael gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.
“Wrth siarad yn nigwyddiad Ymwybyddiaeth Epilepsi 2019 Epilepsi Cymru yn y Senedd, dywedais y gellid osgoi 40% o'r marwolaethau cyffredinol, a 59% o farwolaethau plant, o ganlyniad uniongyrchol i Epilepsi trwy reoli'r cyflwr yn well. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Epilepsy Action Cymru yn dweud bod ‘nifer y Nyrsys Arbenigol Epilepsi yng Nghymru yn druenus o brin’. Siawns mai dyma'r amser i droi geiriau llawn bwriadau da’n weithredoedd go iawn.”