Wrth siarad yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ledled Cymru o fis Medi ymlaen, yng nghyfarfod y Senedd ddoe, galwodd Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru, am gael clywed barn trigolion Bwcle, lle cynhaliwyd cynllun peilot.
Yn y ddadl ar ddeiseb i 'Atal newid terfynau cyflymder i 20mya’ ar 17 Medi, tynnodd Mr Isherwood sylw at y ffaith er i'r ddeiseb hon ddenu 21,920 o lofnodion cyn ei chau, mae un a sefydlwyd ym Mwcle, a oedd yn un o wyth ardal beilot i dreialu terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya, wedi cyrraedd 58,546 llofnod.
Meddai:
"Cafodd y ddeiseb hon, fel i ni glywed, ei chau yn gynnar. Fel arall, byddai ei 21,920 o lofnodion wedi codi'n llawer uwch. Cawn well arwydd o’r ddeiseb i 'Atal Llywodraeth Cymru rhag gosod terfynau cyflymder 20 mya', a lansiwyd ym Mwcle, Sir y Fflint, a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru fel un o wyth ardal beilot i dreialu terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya, a oedd wedi cyrraedd 58,546 o lofnodion erbyn amser cinio heddiw, gan gynnwys 84 wedi'u hychwanegu y bore yma. Mae hyn yn adlewyrchu profiad go iawn pobl sy'n byw yn yr ardal beilot yn y gogledd, sy’n teimlo bod y Dirprwy Weinidog a'i dewisodd yn eu hanwybyddu.
"Roedd y gefnogaeth gan 60 y cant o bobl a honnwyd gan y Dirprwy Weinidog, rydyn ni ar ddeall, yn dod o arolygon a gynhaliwyd cyn i'r cynlluniau peilot gael eu rhoi ar waith, a dyw ei bolisi eithriadau tila ddim yn rhoi fawr ddim o ddisgresiwn i Gynghorau. Mae cynghorwyr Llafur wedi dweud hynny wrtha i.
"Mae'n anwybyddu'r holl ymchwil sy'n herio ei honiad y bydd terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol yn lleihau anafiadau a marwolaethau. Wrth geisio llunio polisïau diogelwch ffyrdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU astudiaeth ymchwil 20mya awdurdodol ac annibynnol ym mis Tachwedd 2018, ac ni chanfuwyd unrhyw ganlyniadau diogelwch arwyddocaol o ran gwrthdrawiadau ac anafiadau mewn ardaloedd preswyl. Yn dilyn hyn, fel y clywsom, canfu astudiaeth 2022 gan Brifysgol Queen's Belfast, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Caergrawnt nad yw lleihau terfynau cyflymder o 30 mya i 20 mya wedi cael fawr ddim effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
"Y flaenorol mae'r Gweinidog wedi dyfynnu Cofnodion yr Heddlu o ddamweiniau ffyrdd ar gyfer 2021, a ddangosodd fod 53 y cant o'r holl ddamweiniau ffyrdd wedi digwydd ar ffyrdd 30 mya. Mae'r un ffigurau'n dangos bod 3% o'r holl ddamweiniau ffyrdd yn digwydd ar ffyrdd 20 mya. Mae data Trafnidiaeth Cymru yn amcangyfrif y bydd y newid yn cynyddu terfynau cyflymder 20 mya o 2.5% i 36.9 y cant o ffyrdd yng Nghymru, gan leihau terfynau cyflymder 30 mya o 37.4% i 3 y cant. Byddai hyn yn golygu y byddai'r gyfradd ddamweiniau ar ffyrdd 20 mya yn agosáu at 50%, tra'n gostwng i 4.2 y cant ar ffyrdd 30 mya.
"Mae'r e-byst di-rif rwyf wedi’u cael gan drigolion 'tref beilot' Bwcle hyd at y bore yma wedi cynnwys, 'Mae llawer o'r ffyrdd hyn yn ffyrdd mynediad prysur ar fryniau serth. Mae'r lorïau yn ei chael hi'n anodd mynd i fyny’r bryniau mewn gêr mor isel, ac mae cadw at gyflymder mor isel i lawr allt yn galed ar y brêcs”.
Ysgrifennodd seiclwr - un o lawer, yn digwydd bod – “Yn hytrach na fy mhasio a mynd allan o'r ffordd, bydd y ceir, faniau a'r lorïau hyn yn gyrru'n agos tu ôl i mi, o fy mlaen i neu wrth fy ochr. Dyw hyn heb gael ei ystyried." Dywedodd un arall o'r trigolion, “Mae'n cyflawni’r hyn sy’n groes i’r hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud. Mae mwy o lygredd gyda cheir yn mynd yn araf mewn gerau is, mae pobl yn rhoi llai o sylw i'r ffordd a mwy ar y cloc cyflymder, gan arwain at ddamweiniau ar ffyrdd lle nad oedd rhai o’r blaen”. Ac, fel y dywedodd un arall y penwythnos hwn, “Mae'r cynllun cyffredinol bondigrybwyll hwn yn gamgymeriad, gan arwain at yrru'n wael, damweiniau agos a mwy o lygredd”.
"Rwy'n siarad fel tad a thaid trigolion Bwcle sy'n derbyn budd hyn ar rai ystadau preswyl penodol, ond yn gwrthwynebu'n llwyr yr hyn maen nhw'n ei ystyried yw'r dull cyffredinol a fabwysiadwyd hyd yma. Mae'r bobl hynny a'u cymdogion eisiau cael eu clywed."