Heddiw, mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth, Mark Isherwood AS, wedi galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymorth i fenywod a merched awtistig ac ADHD, gan dynnu sylw at ganfyddiadau prosiect ymchwil gan elusen yng Ngogledd Cymru.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma yn ystod y Datganiad Busnes, dywedodd Mr Isherwood fod ymchwil a wnaed gan yr elusen arobryn 'KIM Inspire' wedi canfod bod diffyg cydnabyddiaeth a chymorth priodol i ferched a menywod ifanc niwroamrywiol ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru’n arwain at lefelau uchel o drallod, diffyg hunan-barch a hunan-niweidio.
Meddai:
“Rwy'n galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymorth i fenywod a merched awtistig ac ADHD. Canfu adroddiad Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, 'Understanding the Experiences of Autistic and ADHD Women', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, sy'n cynnwys profiadau byw menywod niwroamrywiol, er enghraifft, fod 90 y cant o ymatebwyr yr arolwg wedi mynegi diffyg ymwybyddiaeth o fenywod a merched awtistig mewn lleoliadau gofal iechyd, a bod 75 y cant yn teimlo nad oes digon o gymorth ar gael i unigolion Awtistig a'u teuluoedd.
“Mae'r elusen 'KIM Inspire' o Ogledd Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau eu prosiect ymchwil chwe mis yn 2023 hefyd, 'Supporting Neurodivergent Girls and Young Women across North East Wales'. Roedd y rhain yn cynnwys bod Awtistiaeth ac ADHD mewn merched a menywod ifanc yn parhau i gael eu hanwybyddu gan wasanaethau statudol, bod beio rhieni yn gyffredin, a bod diffyg cydnabyddiaeth a chymorth priodol yn arwain at lefelau uchel o ofid, diffyg hunan-barch a hunan-niweidio.
“Mae'r ddau adroddiad am weld camau gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i wella'r broses o wneud diagnosis i fenywod a merched, sicrhau bod mwy o gymorth ar gael ar ôl diagnosis, a helpu i chwalu'r stigma a'r rhagfarn y mae gormod o fenywod awtistig ac ADHD yn parhau i'w profi. Rwy'n galw am Ddatganiad Llafar gan Lywodraeth Cymru ar y mater hanfodol bwysig hwn yn unol â hynny.”
Yn ei hymateb, diolchodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, i Mr Isherwood “am dynnu sylw gyda'r adroddiad hwn at anghenion merched a menywod awtistig sydd â diagnosis, o ran ADHD, a'r anghenion sydd ganddyn nhw, fel menywod niwroamrywiol yn ein cymuned”.
Ychwanegodd:
“Mae’n fuddiol iawn clywed yr adborth hwnnw gan eich elusen yng Ngogledd Cymru hefyd, ond gwn y bydd y Gweinidog yn ystyried hyn. Byddaf yn dwyn hyn i’w sylw, o ran yr ymateb, sy'n gorfod bod yn ymateb cyson ledled Cymru, ond mae'n amlwg, yng nghyd-destun y ffyrdd rydyn ni’n eu cefnogi ac yn ymateb i anghenion pobl niwroamrywiol o bob cenhedlaeth a rhyw yng Nghymru”.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Mr Isherwood:
“Nid yw'n iawn fod llawer o fenywod yn cael eu gadael heb ddiagnosis, eu cam-ddiagnosio neu heb gefnogaeth.
“Rwyf wedi bod yn trafod hyn gyda Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd, gan dynnu sylw at y ffaith er bod merched awtistig yn wynebu llawer o'r un heriau â bechgyn awtistig, ar y cyfan mae bechgyn yn ffrwydro a merched yn cadw pethau i’w hunain.
“Mae hon yn broblem go iawn, ac mae gen i lawer o waith achos am ferched yn cael gwrthod diagnosis oherwydd ysgolion yn dweud eu bod yn ymdopi cystal yn yr ysgol, er gwaethaf y ffaith eu bod yn mynd adref wedyn, yn torri i lawr ac, mewn llawer o achosion, yn hunan-niweidio ac, yn un o fy achosion blaenorol fy hun, yn ceisio lladd ei hun hyd yn oed.”