Mae Mark Isherwood, AS dros Ogledd Cymru a Chwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid, wedi siarad yn y Senedd am brofiadau gwael o’r system iechyd a gofal cymdeithasol y soniodd rhieni plant awtistig amdanynt, sydd wedi arwain yn Sir y Fflint at alwadau am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i safonau ymarfer y Cyngor Sir.
Mae ymchwiliadau cyhoeddus yn ymchwiliadau sylweddol sy'n cael eu trefnu gan Weinidog y Llywodraeth ar faterion o “bryder i’r cyhoedd”. Mae cyfrifoldebau'r Cwnsler Cyffredinol yn cynnwys darparu cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru.
Cododd Mr Isherwood, sy'n Gadeirydd Grŵp Awtistiaeth Trawsbleidiol y Senedd, y mater wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol yng nghyfarfod y Senedd brynhawn Mawrth ynglŷn â'r cyngor y byddai'n ei roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn.
Meddai:
“Yng nghyfarfod diwethaf y Grŵp Awtistiaeth Trawsbleidiol, yr wyf yn ei gadeirio, rhannodd nifer o fynychwyr eu profiadau o'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Rhannodd cyfranogwyr deimladau o gael eu targedu gan staff mewn gwasanaethau, gydag un cyfranogwr yn dweud bod hyn wedi effeithio ar eu gallu i deimlo'n ddiogel yng Nghymru. Roedd rhai mynychwyr yn teimlo eu bod wedi cael eu beio'n fwriadol fel rhieni a nodwyd bod hyn yn ymddangos fel pe bai’n pwyntio bys at famau yn arbennig.
“Disgrifiodd rhai hefyd pa mor niweidiol fu hyn a sut mae wedi peryglu eu hawl i fagu eu plant. Disgrifiodd un eu profiad gyda gwasanaethau fel un o elyniaeth a rhagfarn. Cododd y cyfranogwyr ddiffyg hyfforddiant a dealltwriaeth gan staff mewn gwasanaethau awtistiaeth, a gwrthwynebiad i fabwysiadu diagnosis awtistiaeth, ac roedd llawer yn cytuno bod diffyg atebolrwydd ynghylch y materion a godwyd.
“Awdurdod lleol a nododd sawl cyfranogwr fel problem oedd Cyngor Sir y Fflint, gan ddweud yr hoffent weld Ymchwiliad Cyhoeddus Annibynnol i'r safonau ymarfer yn Sir y Fflint.
“Yn sgil pryder y cyhoedd, pa gyngor fyddech chi'n ei roi felly, fel Cwnsler Cyffredinol, i Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn, y tybir y byddai gofyn i chi ei roi?”
Wrth ymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol: “Nid yw'r materion rydych chi'n eu codi yn faterion dibwys, ond dylid eu codi gyda’r Ysgrifennydd Cabinet priodol”.