Gyda'r Ceidwadwyr Cymreig ar fin galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu Adolygiad Annibynnol i'w Diwygiadau Addysgol presennol heddiw, gofynnodd AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood ddoe i Brif Gynghorydd Cyfreithiol Llywodraeth Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, pa gyngor y byddai'n ei roi i Weinidogion ynglŷn â hyn.
Y mis diwethaf, rhyddhaodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid eu hadroddiad ‘Major challenges for Education in Wales’, a amlygodd nid yn unig mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru oedd y gwaethaf erioed a’u bod yn sylweddol is na'r rhai yng ngweddill y DU, ond daeth i'r casgliad hefyd bod hyn oherwydd polisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru.
Wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol yng nghyfarfod y Senedd ddydd Mawrth, cyfeiriodd Mr Isherwood at y Cynnig y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gyflwyno'r prynhawn yma, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol i'r diwygiadau addysgol presennol sy'n cael eu cyflwyno, a gofynnodd pa gyngor y byddai'n ei roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn.
Meddai:
“Ar 21 Mawrth, cyhoeddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid eu hadroddiad 'Heriau mawr i addysg yng Nghymru', a ganfu fod y cylch diweddaraf o sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) wedi dod â'r rhai yng Nghymru i'w lefel isaf erioed, yn sylweddol is na'r cyfartaledd ar draws gwledydd OECD (Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd) ac yn sylweddol is na'r rhai a welwyd ledled gweddill y DU, nad yw canlyniadau addysgol isel yn debygol o fod yn adlewyrchiad o dlodi uwch yng Nghymru, cymysgedd ethnig gwahanol o ddisgyblion, rhagfarnau ystadegol neu wahaniaethau mewn adnoddau, a'u bod yn fwy tebygol o adlewyrchu gwahaniaethau mewn polisi a dull.
“Argymhellwyd cymryd saib ac, mewn rhai achosion, ailystyried diwygiadau’r gorffennol a’r rhai sy’n parhau mewn meysydd gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar wybodaeth benodol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, ac oedi diwygiadau i TGAU i roi amser priodol i ystyried eu heffeithiau ar ganlyniadau hirdymor, llwyth gwaith athrawon ac anghydraddoldebau. Yfory, bydd galw felly ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol i'w diwygiadau addysgol presennol.
“Yn sgil pryder y cyhoedd, pa gyngor fyddech chi'n ei roi felly i Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn?”
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth Mr Isherwood y dylai gyfeirio ei gwestiwn at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Isherwood:
“Wel, diolch i chi, ond rwy’n cymryd, o ystyried eich rôl fel Cwnsler Cyffredinol sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru, y byddai Gweinidogion perthnasol yn dod atoch chi am gyngor yn unol â hynny. A phryderon y cyhoedd ddylai fod yn flaenoriaeth i chi, fel y dywedais, ar faterion mor bwysig, ac nid fel arall.”
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Mr Isherwood:
“Mae ei gyfrifoldebau fel Cwnsler Cyffredinol yn cynnwys darparu cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru ac roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â'r cyngor cyfreithiol y mae'n ei roi i Lywodraeth Cymru yng ngoleuni'r alwad hon am adolygiad annibynnol.”