Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi tynnu sylw unwaith eto at yr angen am wasanaeth awdioleg gofal sylfaenol llawn yng Nghymru.
Wrth siarad yn y ddadl fer ddoe ar 'Ofal sylfaenol a'r Agenda Ataliol', pwysleisiodd Mr Isherwood, sydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn y gorffennol i adael i'r diwydiant optegol helpu GIG Cymru i wella mynediad at wasanaethau colli clyw'r GIG, unwaith eto, oherwydd y galw am wasanaethau clywedol, bod cleifion yng Nghymru yn wynebu oedi sylweddol, ac y byddai darparu triniaeth amserol o ansawdd uchel yn y gymuned yn helpu i ddatrys y broblem hon.
Meddai:
“Mae darparwyr Gofal Sylfaenol Annibynnol yn cael eu comisiynu gan bob Bwrdd Iechyd GIG yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau iechyd llygaid arbenigol yn y gymuned, ond mae gwasanaethau colli clyw oedolion yng Nghymru yn cael eu darparu'n gyfan gwbl gan Fyrddau Iechyd y GIG.
“Fel cenhedloedd datblygedig eraill, mae gan Gymru boblogaeth fawr a chynyddol o oedolion sy’n colli eu clyw wrth heneiddio.
“Mae tystiolaeth sylweddol bod awdioleg gymunedol yn gost-effeithiol iawn ac y gellir ei ddarparu'n ddiogel gan ddarparwyr annibynnol, gyda chefnogaeth y modelau darparu gwasanaethau sy'n gweithredu yn Lloegr a Gweriniaeth Iwerddon.
“Er bod model Cymreig o awdioleg gofal sylfaenol yn gwella hygyrchedd, mae cleifion yn parhau i wynebu oedi hir, ac mae angen gwasanaeth awdioleg gofal sylfaenol llawn yng Nghymru, a fyddai’n darparu triniaeth amserol o ansawdd uchel yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaeth rheoli cwyr yn cael ei gynnig gan ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol a gomisiynir gan GIG Cymru.
“Byddai hyn yn helpu i atal cymhlethdodau iechyd di-rif pellach ar lefel Gofal Sylfaenol fel rhan annatod o agenda ataliol.”