Mae’r AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi dweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet Llafur newydd dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig nad yw cynhyrchu tanwydd ffosil newydd yng Nghymru yn ddewis 'naill ai/neu' ac fe rybuddiodd “bod methu â derbyn a chynllunio ar gyfer y risgiau sy’n peryglu yn gadael pobl yn oer, newynog, sychedig ac yn agored i ansefydlogrwydd sy'n peryglu bywyd”.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet yng nghyfarfod Senedd Cymru ddoe, dywedodd Mr Isherwood:
“Hefyd wrth holi'r Prif Weinidog am hyn ddoe, nodais fod yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn diffinio Diogelwch Ynni fel 'argaeledd di-dor o ffynonellau ynni am bris fforddiadwy'; bod y lefelau presennol o dechnoleg ynni a seilwaith yn golygu bod angen cyflenwad wrth gefn ar gyfer ynni adnewyddadwy ysbeidiol, sy'n parhau i ddibynnu ar danwydd ffosil, nwy yn bennaf, ar gyfer ymateb cyflym ac i gydbwyso'r galw, yn enwedig pan fydd allbynnau gwynt a solar yn isel; a bod hyn yn debygol o barhau i fod yn wir am ran helaeth o'r cyfnod pontio i ddyfodol carbon-niwtral, a byddai esgus fel arall yn anghymwynas â'r cyhoedd.
“Yna gofynnais iddo sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu sicrhau diogelwch ynni yn ystod y blynyddoedd o bontio i ddyfodol carbon-niwtral. Yn ei ymateb, ac fel y nodwch, dywedodd y Prif Weinidog fod 'rhagdybiaeth yn erbyn cynhyrchu tanwydd ffosil newydd yng Nghymru'.
“Yn eich rôl newydd felly, sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r realiti technolegol a gwyddonol nad dewis 'naill ai/neu' yw hwn, a bod methu â derbyn a chynllunio ar gyfer y risgiau hyn yn gadael pobl yn oer, newynog, sychedig ac yn agored i ansefydlogrwydd sy'n peryglu bywyd?”
Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“O'n rhan ni, mae trosglwyddo cyfiawn i sero net wrth wraidd y Llywodraeth hon; mae wedi'i ymgorffori ym mhopeth a wnawn. Byddwn yn sicrhau bod gweithwyr a defnyddwyr yn flaenllaw ac yn ganolog yn y trosglwyddo i sero-net a bod pobl Cymru yn elwa. Ond, i fod yn gwbl glir, mae angen cyflenwad ynni diogel, fforddiadwy a diwydiant cynaliadwy yng Nghymru”.
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Mr Isherwood:
“Roedd ei ffocws ar ganmol rhinweddau yn hytrach nag ateb fy nghwestiwn yn anghyfrifol ac yn peri pryder”.