Mae’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r cais a wnaed gan Gynghrair Twristiaeth Cymru yn ei llythyr at y Prif Weinidog am ymrwymiad i ddyddiad ar gyfer adolygiad o'r polisi 182 diwrnod.
Wrth siarad yng nghyfarfod Senedd Cymru ddoe, dywedodd Mr Isherwood, sydd eisoes wedi rhybuddio bod perchnogion busnesau sy'n gosod cartrefi gwyliau yn gyfreithlon yn cael eu gorfodi i gau oherwydd rheol treth gyngor ail gartrefi 182 diwrnod Llywodraeth Cymru. Dangosodd arolwg o dros 1,500 o fusnesau hunanarlwyo fod 42 y cant naill ai'n rhoi eu heiddo ar y farchnad, neu’n ystyried gwneud hynny.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ynghylch pa ystyriaeth y mae hi wedi'i rhoi i ddiwygio'r Dreth Gyngor yng Nghymru, dywedodd:
“Mae'r 'rheol 182 diwrnod' yn golygu bod busnesau hunanarlwyo lleol, cyfreithlon, sefydledig wedi dod yn atebol i dalu Treth Gyngor, weithiau ar gyfradd premiwm. Pan gynigiwyd yr is-ddeddfwriaeth sy'n cyflwyno'r trothwy hwn, rhybuddiodd y sector y byddai hyn yn niweidio busnesau cyfreithlon Cymru ac yn niweidio'r ecosystem fregus yr economi ymwelwyr.
“Mae dros 1,500 o fusnesau hunanarlwyo wedi ymateb bellach i arolwg newydd a gomisiynwyd gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunan-arlwywyr y DU. Dim ond 25 y cant a ddywedodd y byddent yn cyrraedd 182 diwrnod eleni, mae 70% yn gostwng eu pris i geisio cyrraedd 182 diwrnod, ac mae 42 y cant naill ai'n rhoi eu heiddo ar y farchnad, neu'n ystyried gwneud hynny, gyda'r tebygolrwydd y byddant yn cael eu prynu fel ail gartrefi.
“Sut ydych chi'n ymateb felly i'r cais a wnaed gan Gynghrair Twristiaeth Cymru yn ei llythyr at y Prif Weinidog am ymrwymiad i ddyddiad ar gyfer adolygiad o'r polisi 182 diwrnod, ac i drafod pa eithriadau pellach o bremiymau Treth Gyngor sydd eu hangen er mwyn i economi ymwelwyr gytbwys Cymru oroesi a ffynnu?”
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oes cynlluniau i gynnal adolygiad o'r polisi.
Dywedodd:
“Dim ond yn ddiweddar mae'r rheolau wedi dod i mewn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eu bod nhw'n cael cyfle i sefydlu. Nid wyf am i'r sector fod yn llafurio ar gam o dan y dybiaeth y bydd adolygiad ar unwaith pan, mewn gwirionedd, y dylai’r sector fod yn ymdrechu i geisio naill ai bodloni'r 182 diwrnod hynny neu ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddynt, ac mae yna opsiynau ar gael iddynt.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
“Mae busnesau cyfreithlon Cymru ac economi ymwelwyr Cymru angen ac yn haeddu cymaint mwy nag ymatebion clustfyddar yr Ysgrifennydd Cabinet hwn. Trwy wrthod eu ceisiadau seiliedig ar dystiolaeth, bydd yn rhannu cyfrifoldeb uniongyrchol am y difrod economaidd a'r niwed personol a ddaw o ganlyniad i hynny.”