Heddiw, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon ynghylch y cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd y gwnaeth Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni gyda'r cwmni o Gaerdydd, FleetEV, i gyflenwi cerbydau trydan.
Wrth holi Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, yng nghyfarfod y Senedd heddiw ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o gerbydau ecogyfeillgar ar y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru, dywedodd Mr Isherwood fod gweithiwr trafnidiaeth proffesiynol o’r gogledd wedi cysylltu ag ef i ddweud ei fod yn poeni am benodi’r cwmni ac yn cwestiynu'r broses gaffael dan sylw.
Meddai Mr Isherwood:
"Ar ôl adroddiadau ym mis Chwefror bod FleetEV o Gaerdydd wedi cytuno ar fargen gwerth miliynau o bunnoedd gyda Llywodraeth Cymru i gyflenwi cerbydau trydan, cysylltodd uwch weithiwr trafnidiaeth proffesiynol yn y gogledd â mi, gan fynegi pryder mai dim ond ers mis Hydref 2022 yr oedd y cwmni wedi cael ei gorffori, ac nad oedd ganddo unrhyw ffigurau masnachu ac mai dim ond £6,316 oedd ei werth net.
"Ychwanegodd nad yw’r cwmni’n agos i fod yn gwmni sefydlog yn ariannol sydd wedi ennill ei blwyf i wario cymaint gydag ef, a bod yr unig gyfarwyddwr a chyfranddaliwr 100 y cant wedi bod yn gyfarwyddwr pedwar cwmni o'r blaen, ac mae pob un ohonyn nhw wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
"Ydych chi'n rhannu'r pryder hwn, a wnewch chi ymchwilio, a sut ydych chi'n ymateb i bryder fy etholwr, er bod Llywodraeth Cymru yn nodi bod Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru wedi dilyn Datganiad Polisi Caffael Cymru, ni chafodd cyfrifon ail flwyddyn FleetEV eu cyhoeddi tan 28 Rhagfyr 2023, ac arhosodd Llywodraeth Cymru tan ddechrau mis Ionawr, wrth i'r cwmnïau tendro eraill aros, cyn bwrw rhagddi â'r broses affael a arweiniodd at y cyhoeddiad mai FleetEV oedd y cynigydd llwyddiannus?"
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
"Gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau ynglŷn â'r mater hwn? Byddaf yn edrych ar y materion a godwyd heddiw ac yn rhoi adborth i'r Aelodau. Mae rhai pryderon difrifol wedi cael eu codi. Mae angen ymchwiliad, rwy'n credu, ac felly byddaf yn rhannu'r adborth cyn gynted ag y gallaf gydag Aelodau ar draws y Siambr."