Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Byddar, Mark Isherwood, wedi annog Llywodraeth Cymru i weithredu i fynd i'r afael â’r diffyg dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Wrth godi'r mater yng nghyfarfod y Senedd ddoe gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, dywedodd Mr Isherwood bod mynediad at wasanaethau cyhoeddus i bobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain "yn cael ei rwystro gan ddiffyg darpariaeth dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ".
Meddai:
"Mynychodd Rheolwr Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru, WITS, gyfarfod diwethaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Byddar, yr wyf yn ei gadeirio, gan dynnu sylw at ddiffyg dehonglwyr, yn enwedig ar gyfer gofal brys a heb ei gynllunio, gyda'r rhan fwyaf o geisiadau wedi'u cynllunio ymlaen llaw, a gyda heriau o ran dod o hyd i ddehonglwyr sydd â sgiliau priodol ar fyr rybudd.
"Sut ydych chi'n cynnig mynd i'r afael â hyn a phryderon a godwyd am brinder gwybodaeth ymysg staff yn y Gwasanaeth Iechyd am sut i drefnu dehonglwyr; am ddiffyg cysylltiad rhwng staff yn y Gwasanaeth Iechyd a WITS, gan arwain at ansicrwydd ynghylch argaeledd dehonglwyr; am unigolion byddar yn derbyn llythyrau apwyntiad heb wybodaeth glir ynghylch a oes dehonglydd wedi'i drefnu, gan achosi dryswch ac ansicrwydd; ac am y diffyg ymwybyddiaeth yn y proffesiwn meddygol am anghenion unigolion dall fyddar?"
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
"Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain ochr yn ochr â Saesneg, Cymraeg ac ieithoedd eraill yn ei chwricwlwm ac mae angen i ni nawr sicrhau ein bod yn cefnogi'r cynnydd yn y gwasanaethau. Mae'n amlwg iawn mai Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf neu ddewis iaith y gymuned fyddar, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU."
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Fis diwethaf, roeddwn i wrth fy modd pan enillodd fy Mil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) Bleidlais Bil Aelod. Gellir trafod hyn yn awr yn y Senedd, gan ofyn am gytundeb yr Aelodau i gyflwyno'r Bil hwn.
"Mae angen dileu'r rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle ac mae'r Bil hwn yn ceisio gwneud hynny."