Wrth siarad yn Nadl y Senedd heddiw ar 'Cymru a Llywodraeth nesaf y DU', dywedodd yr AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, fod perfformiad Llywodraeth Cymru hyd yma yn dangos pam na ddylid rhoi rhagor o bwerau i Gymru nawr.
Siaradodd hefyd yn erbyn galwad Plaid Cymru am ddileu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan ddweud mai "Swyddfa Cymru yw eiriolwr gorau Cymru yn San Steffan".
Croesawodd Mr Isherwood hefyd ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffordd y Gogledd a'r ffaith mai Cymru yw unig wlad y Fargen Dwf yn y DU.
Wrth wrthwynebu galwadau Plaid Cymru am ragor o bwerau i Gymru, dywedodd:
"Ar ôl chwarter canrif o Lafur Cymru yn methu â defnyddio'r pwerau sydd ganddyn nhw eisoes yn effeithiol, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll yn gadarn yn erbyn mwy o ddatganoli nawr.
"Dyw datganoli cyfrifoldebau ddim yn fecanwaith sicr i wella’r cyfrifoldebau hynny.
"Does dim ond angen edrych ar GIG Cymru, gyda dros un fil ar hugain yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, o'i gymharu â thua 200 yn Lloegr gydag ugain gwaith y boblogaeth; a'n sector addysg, sydd, yn anffodus, wedi cael ei nodweddu gan danberfformio cyson a difrifol o'i gymharu â gweddill y DU, er gwaethaf ymroddiad staff.
"Dyw Plaid Lafur y DU heb ymrwymo i ddatganoli'r Heddlu a Chyfiawnder i Oedolion, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r Wrthblaid, Jo Stevens AS, yn datgan bod problemau presennol gyda throsedd yn rhai sy’n gofyn am ormod o frys i ddechrau newid cyfrifoldebau yr heddlu, y llysoedd a charchardai yng Nghymru, a gyda Maniffesto Llafur y DU ond yn datgan y bydd y blaid yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid.
"Yn y cyd-destun hwn, dylid nodi, pan ddaeth Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU i ben, fod troseddu yn rhemp, ond mae troseddu wedi cael ei haneru o dan Lywodraethau Ceidwadol y DU ers 2010.
"Fel yr wyf wedi nodi dro ar ôl tro i'r Cwnsler Cyffredinol, mae yna nifer o ffactorau sy'n cael eu hanwybyddu'n rhy aml mewn trafodaethau ar ddatganoli cyfiawnder, yn enwedig gwir fater o droseddau trawsffiniol."
Ychwanegodd:
"Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Janet Finch Saunders AS, wrth y rhai a oedd yn ceisio cael gafael ar fwy o bŵer eto flwyddyn yn ôl, dylid rhoi'r gorau i wastraffu amser y Senedd yn pwyso am fwy o ddatganoli pan allem yn hytrach fod yn gwneud y defnydd gorau o'r pwerau sydd eisoes yn ein dwylo a gwneud llwyddiant o Gymru.
"O ran safbwynt Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae'n undonog bod yr un pwynt siarad cenedlaetholgar hwn wedi codi ei ben eto, wedi'i yrru gan bwrpas ac awydd Plaid Cymru i rannu ac anobeithio. Swyddfa Cymru yw eiriolwr gorau Cymru yn San Steffan.
"Ni all Plaid Cymru ddadlau nad yw Llywodraeth y DU yn gwrando digon ar Gymru ar un llaw, ond yna dadlau dros dawelu ei llais y tu mewn i Gabinet y DU yn yr anadl nesaf.
"Does dim ond angen edrych ar drafnidiaeth, gyda dros £2.3 biliwn o arian y DU wedi'i fuddsoddi yn Rheilffordd Cymru ers 2019, o’i gymharu â mwy na £2.5 biliwn o gyllid Ffyniant Bro sydd wedi’i wario ledled Cymru, a’r parodrwydd i weithio gyda chymunedau lleol i helpu i'w grymuso i wthio yn ôl yn erbyn agendâu digroeso fel y mandadau 20 mya gan Lywodraeth Cymru, i weld y manteision diweddaraf o gael eiriolwr cryf dros Gymru yn eistedd wrth fwrdd y Cabinet yn San Steffan.
"Byddwn felly yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid a gwelliant Llywodraeth Cymru hefyd".
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Mr Isherwood: "Er bod Llywodraethau Ceidwadol y DU wedi cyflawni pwerau deddfu, pwerau codi trethi a’r model cadw pwerau, gan droi'r lle hwn yn Senedd lawn, rydyn ni’n cydnabod bod datganoli pwerau nawr neu yn y dyfodol rhagweladwy yn ddiangen ac yn anniogel".